Around 200 members have let us know that their In-Home Display has spontaneously switched to Welsh. The story made the news so you might have heard about it too. While we love the Welsh language, we didn’t intend for Bulb’s In-Home Displays to help others learn Cymraeg. While some people see this as a happy accident (especially the Welsh Language Commissioner), we recognise this isn’t helpful for everyone. You can find simple steps to switch your IHD back to English below.
How to change the language back to English on your In-Home Display
Press the ok button at the bottom of the In-home display, and then the right arrow button until you see 'Gosodiadau Wedi anfon yr'
Press ok. This takes you to settings
Press the right button until you see 'Dewis iaith Wedi anfon yr'. If this does not work, you may need to try the next option, 'Clirio Gosodidau Wedi anfon yr'
Press ok
Select English on the left, by pressing the left arrow, then press ok
You can also read these on our help centre.
We’re working with the manufacturer of our IHDs, a company called Chameleon, to make sure we solve the root cause of this glitch. Some members have let us know that some of the Welsh being displayed isn’t really up to scratch - we’re working with them on that too.
Beth i’w wneud os ydy’ch Dangosydd yn y Cartref yn newid i’r Gymraeg
Mae’n bosib eich bod wedi gweld yn y newyddion fod nifer fach o Ddangosyddion yn y Cartref wedi newid yn ddigymell i’r Gymraeg. Tra’n bod ni’n meddwl fod yr iaith Gymraeg yn un wych, rydym yn deall fod hynny ddim o hyd yn ddefnyddiol. Dyma’r ateb yn syml.
Mae tua 200 o’n haelodau wedi rhoi gwybod i ni fod eu Dangosydd yn y Cartref wedi newid yn ddigymell i’r Gymraeg. Mae’r hanes wedi cyrraedd y newyddion felly efallai eich bod wedi clywed sôn am hynny hefyd. Tra’n bod ni’n caru’r iaith Gymraeg, nid oeddem yn bwriadu i Ddangosyddion yn y Cartref Bulb helpu eraill i ddysgu’r Gymraeg. Tra bod rhai yn gweld hyn fel damwain hapus (yn enwedig Comisiynydd y Gymraeg), rydym yn cydnabod nad yw hyn yn ddefnyddiol i bawb.
Os ydy'ch dangosydd yn y cartref yn y Saesneg ar hyn o bryd ac hoffech ei newid i'r Gymraeg, rydym wedi ychwanegu cyfarwyddiadau i wneud hynny isod.
Sut i newid yr iaith yn ôl i’r Saesneg ar eich Dangosydd yn y Cartref
Pwyswch y botwm ok ar waelod y dangosydd yn y cartref, ac yna’r saeth dde tan eich bod yn gweld 'Gosodiadau Wedi anfon yr'
Pwyswch ok. Mae hyn yn mynd â chi i’r gosodiadau
Pwyswch y botwm dde tan eich bod yn gweld 'Dewis iaith Wedi anfon yr'. Os nad yw hyn yn gweithio, efallai fydd angen i chi drio’r opsiwn nesaf, 'Clirio Gosodiadau Wedi anfon yr'
Pwyswch ok
Dewiswch 'English' ar y chwith, gan bwyso’r saeth chwith, yna pwyswch ok
Sut i newid yr iaith i'r Gymraeg ar eich Dangosydd yn y Cartref
Pwyswch y botwm ok ar waelod y dangosydd yn y cartref, ac yna'r botwm saeth de tan i chi weld' Settings'
Pwyswch ok
Pwyswch y botwm de tan i chi weld 'Choose language'
Pwyswch ok
Dewiswch 'Cymraeg', ac yna pwyswch ok
Gallwch hefyd ddarllen y rhain yn ein canolfan cymorth.
Rydym yn gweithio efo gwneuthurwr y dangosyddion yn y cartref i sicrhau ein bod yn datrys achos sylfaenol y broblem hon. Mae rhai aelodau hefyd wedi rhoi gwybod i ni nad ydy'r Gymraeg sy’n cael ei arddangos yn gywir - rydym yn gweithio efo nhw ar hynny hefyd.